Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021
Amser:
09.45 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11192
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Hefin David AS Suzy Davies AS Mike Hedges AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS |
Tystion: |
Elinor Williams, Ofcom Nick Speed, BT Cymru Kim Mears, Openreach |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS
1.2 Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ran Joyce Watson AS
1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant
2 Y diweddaraf am fand eang
2.1 Atebodd Kim Mears OBE, Rheolwr Gyfarwydddwr Datblygu Seilwaith Strategol, Openreach, Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddio, Ofcom Cymru a Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
2.2 Cytunodd Kim Mears i ddarparu rhagor o fanylion i'r Pwyllgor ar yr hyn a gafodd ei aralleirio, beth aeth i mewn, beth aeth allan, a lle rydyn ni heddiw. Hefyd o ran cysylltiad ether-rwyd, bydd yn rhoi gwybod a fydd yn dod yn fuan neu’n rhoi manylion am yr amserlen a bydd yn rhannu dogfen gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes pan fydd yn barod.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
4 Sesiwn breifat: Gweithio o Bell - Papur briffio gan academyddion
3.1 Cynhaliwyd cyfarfod preifat gyda’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd a Dr Darja Reuschke, Athro Cyswllt, Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol, Prifysgol Southampton
5 Preifat
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn